Sut ydych chi’n teimlo heddiw?

Ydw i o dan straen?

Beth mae’n ei olygu i fod o dan straen? Yn ôl gwefan ‘medical news today’, mae pobl o dan straen pan fyddan nhw’n cael eu gorlwytho ac yn cael anhawster ymdopi â’r galwadau. Mae straen yn medru ysgogi; ac mae straen yn medru bod yn hanfodol i oroesi. Mae’r weithred o ymladd a ffoi yn medru dweud wrthym pryd a sut i ymateb i berygl. Ond, os yw’r weithred hon yn cael ei sbarduno’n rhy hawdd, mae’n medru tanseilio iechyd meddwl ac iechyd corfforol unigolyn a pheri niwed.

Ydw i o dan ormod o straen? Mae hyn yn beth personol - mae pob un ohonom yn medru ymdopi â gwahanol lefelau o straen. Mae’r hyn sy’n bywiogi un person yn medru bod yn frawychus i rywun arall.

Beth yw’r pethau cyffredin sy’n achosi straen ymhlith gofalwyr di-dâl?

  • Mae gorfod rhoi anghenion rhywun arall yn gyntaf ddydd ar ôl dydd yn medru effeithio ar eich llesiant.
  • Mae meddwl sydd dan ei sang â’r baich meddyliol o ofalu, e.e. meddyginiaeth, ffisiotherapi, apwyntiadau, problemau ariannol, heb sôn am y senarios ‘beth os’ brawychus, yn medru peri i bobl deimlo’u bod wedi’u llethu gan gyfrifoldebau gofalu.

Mae edrych ar ôl eich hun mor bwysig; os byddwch chi’n teimlo’n llwythog â chyfrifoldebau ac wedi llwyr ymladd gan alwadau gofalu, a’ch bod chi’n esgeuluso eich anghenion eich hun, byddwch chi’n ymateb yn wahanol i sut fyddech chi’n ymateb i broblemau pe baech chi wedi dadflino ac yn teimlo’n ddigyffro. Felly, mae’n bosibl bod esgeuluso eich hun yn cyfrannu at straen gofalwyr! Er ein bod ni yn Cynnal Gofalwyr yn pwysleisio pwysigrwydd amser i’ch hun ac edrych ar ôl eich hun, rydym yn sylweddoli bod hyn yn haws dweud na gwneud mewn llawer o sefyllfaoedd gofalu. Y ffaith amdani yw bod rhai sefyllfaoedd gofalu’n rhai llawn straen.

Beth fedraf ei wneud amdano?

Helpu’ch hun:

  • Trefnwch amser rheolaidd i fynd allan a gwneud y pethau yr ydych chi’n ei fwynhau, e.e. cwrdd â ffrindiau neu fynd am dro ym myd natur.
  • Ceisiwch gyfathrebu; siaradwch â’r sawl yr ydych chi’n gofalu amdano neu â’ch teulu ynghylch sut rydych chi’n teimlo a dewch o hyd i ddatrysiadau gyda’ch gilydd.
  • Siaradwch â rhywun yn eich canolfan ofalwyr neu grŵp cymdeithasol gofalwyr lleol. Yn aml, mae siarad am bethau’n ddigon i’ch helpu chi i weld pethau mewn goleuni newydd a gostwng eich lefelau straen. Wedi’r cyfan, nid rhywun siwper ddynol ydych chi ac rydych chi’n gwneud eich gorau glas.

Os yw eich sefyllfa ofalu’n peri straen ofnadwy, efallai y byddai’n ddoeth gofyn am gymorth allanol.

Cymorth allanol:

  • Siaradwch â’ch meddyg teulu, a fedrai awgrymu cwnsela neu therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT).
  • Mae Cynnal Gofalwyr yn medru eich atgyfeirio chi at sefydliadau defnyddiol amrywiol, gan gynnwys rhai sy’n cynnig y therapïau uchod.
  • Cofrestrwch ar gwrs neu ddosbarth ymarfer corff addas; mae wedi’i brofi bod ymwybyddiaeth ofalgar, tai chi, ioga, dawnsio a chanu yn medru helpu i leihau straen. Bydd eich canolfan gofalwyr lleol yn medru eich helpu i ddod o hyd i’r un iawn i chi.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal cyrsiau am ddim i ofalwyr a phobl sy’n dioddef o anhwylderau cronig.

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal cyrsiau am ddim i ofalwyr a phobl sy’n dioddef o anhwylderau cronig.

    Pwyntiau allweddol straen i fod yn ymwybodol ohonynt
  • Mae straen yn helpu’r corff i baratoi ar gyfer perygl.
  • Mae’r symptomau yn medru bod yn gorfforol ac yn seicolegol.
  • Mae straen yn medru bod yn ddefnyddiol yn y tymor byr, ond yn yr hirdymor, mae’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd amrywiol.
  • Medrwn ni baratoi ar gyfer straen trwy ddysgu technegau hunan-reoli.
  • Weithiau, mae angen i ni ofyn am help.

Mae gofalu’n medru achosi straen ofnadwy, ac mae Cynnal Gofalwyr yma i helpu gofalwyr i beidio â chyrraedd pwynt argyfwng.

 

Fy Nhaith Trwy Straen

Rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n gofalu am fy mam a oedd â dementia cymysg. Roedd hi eisiau aros yn ei chartref ei hun ac, er gwaethaf fy mhryderon i am ei diogelwch hi a diogelwch ei chymdogion, cafodd y sefyllfa hon ei chaniatáu hyd nes iddi farw. Roeddwn i’n poeni fy enaid y byddai’n llosgi’r tŷ’n ulw a bu’n rhaid i mi ymdrin â llawer o gwynion gan ei chymdogion ynghylch ei natur ymosodol. Rhwng popeth, fel y bydd unrhyw ofalydd dementia’n dweud wrthych, roedd yn gyfnod llawn straen.

Ychydig cyn marwolaeth mam, aeth perthynas agos arall yn ddifrifol wael a bu farw 3 pherthynas/ffrind agos arall - rhai ohonynt yn llawer rhy ifanc!

Roeddwn i’n gweithio’n llawn-amser, a dechreuais deimlo’n bryderus tu hwnt. Roeddwn i’n cael fy llethu gan feddyliau tywyll am bethau ofnadwy’n digwydd i weddill fy nheulu. Fedrwn ni ddim siarad am rai o’r meddyliau hyn, roedden nhw’n rhy arswydus. Roedd arna i ofn mynd i unrhyw le heb fy ffôn symudol, gan feddwl y byddai rhywbeth ofnadwy yn siŵr o ddigwydd i fy anwyliaid pe bawn i’n ei adael ac yn methu eu galwad am help.

Ar ôl rhai misoedd, dechreuais gael symptomau corfforol - phinnau bach yn fy wyneb, crychguriadau’r galon, pennau tost, cymalau poenus, pwysedd gwaed uchel a chyfnodau o flinder eithafol. Gwnaeth fy meddyg brofion gwaed, a thrwy fendith, daeth y rhain yn ôl yn glir. Cefais fy atgyfeirio at ffisiotherapi ar gyfer y boen yn fy nghymalau, a barn y ffisio oedd bod straen yn gyfrifol am lawer o’r boen. Parhaodd y symptomau corfforol a dychwelais at y meddyg. Y tro hwn, awgrymodd y dylwn gyfeirio fy hunan at gwnselydd.

Dywedodd Cynnal Gofalwyr wrthyf am ddau lwybr posibl o gymorth, ‘Parabl: y Bartneriaeth Therapïau Siarad’ a ‘Cymorth yn y Gwaith’. Dewisais ‘Cymorth yn y gwaith’, a ddarparodd un sesiwn gwnsela yr wythnos am 6 wythnos.

Roedd hyn yn ddefnyddiol tu hwnt; helpodd fy nghwnselydd fi i weld bod y gorbryder yr oeddwn i’n ei deimlo yn ymateb naturiol i gyfnod o straen dwys. Gwnaethom edrych ar elfennau o fy mywyd a fedrai fod wedi cyfrannu at ba mor fregus yr oeddwn i wedi bod yn teimlo pan fu’n rhaid i mi wynebu digwyddiadau llawn straen. Rwyf wastad wedi bod yn gyndyn i ofyn am help, a thros y blynyddoedd, roeddwn wedi datblygu diddordeb byw mewn technegau hunangymorth ac wedi astudio llyfrau a gwrando ar gryno ddisgiau ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar. Edrychais o ddifrif ar fy mywyd, a gofyn i fy hun beth oedd yn peri straen yn fy mywyd bob dydd a beth fyddai’n rhesymol i mi fedru rhoi’r gorau i’w wneud.

Gwnaeth y cwnselydd ganmol fy ymdrechion hyd yma, gan ddweud fy mod ar y trywydd cywir. Rhoddodd hyn hwb i fy hunanhyder; rwy’n sylweddoli na fedr unrhyw un gael bywyd cwbl ddi-straen, ond rwy’n credu y bydd bod yn ymwybodol o’r ffactorau straen a chael yr offer i ymdopi â nhw, yn fy atal rhag cyrraedd cyflwr mor bryderus eto.

Fy syniadau i ar sut i ddileu straen

  • Pan na fyddwch chi’n medru rhoi’r gorau i boeni am ddigwyddiad posibl neu go iawn yn y dyfodol, stopiwch! Anadlwch gwpwl o weithiau a gofynnwch i’ch hun sut ydych chi’n teimlo nawr. Ydych chi’n ddiogel? Yw eich teulu’n ddiogel? Ie fydd yr ateb fel arfer. Ceisiwch barhau i deimlo’n ddiogel yn y presennol am gyn hired ag y medrwch chi. Bydd hyn yn dod yn haws wrth i chi ymarfer.
  • Treuliwch amser gyda phobl sy’n gwneud i chi deimlo’n dda am eich hun.
  • Gwaith oedd fy achubydd i; roedd ymgolli’n llwyr mewn prosiect yn fy helpu i anghofio am fy mhryderon am gyfnod.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn am help; mae pob un ohonom angen help llaw rhywbryd yn ein bywydau. Os nad oes gennych rwydwaith cymorth da o’ch cwmpas chi, bydd Cynnal Gofalwyr yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol.
  • Dewch o hyd i rywbeth sy’n gweithio i chi. Rwy’n chwarae fy CDs ymlacio ac yn mynd am dro. Mae cerddoriaeth, sioeau teledu sy’n rhoi hwb i’r galon, grwpiau cymdeithasol, dosbarthiadau ymarfer corff a garddio i gyd yn bethau sy’n cael eu hargymell.
Pob lwc!

 

Dileu straen


Rhai syniadau ar sut i ddileu straen

  • Ceisiwch beidio â dweud ‘ie’ i bopeth yr holir i chi ei wneud. Y cwbl y mae hyn yn ei wneud yw cynyddu’r lefelau straen. Mae’n iawn i ddweud na weithiau. Os ydym ni bob amser yn dweud ie, pa werth sydd iddo pan rydym ni eisiau ei ddweud go iawn?
  • Gorffwyswch – hyd yn oed am brin 10 munud. Porwch drwy gylchgrawn neu caewch eich llygaid a gwrando ar gerddoriaeth ymlacio. Mae’n bwysig chwilio amser i fagu nerth newydd.
  • Rhowch gynnig ar rai ymarferion anadlu. Medrwch wneud y rhain ar unrhyw adeg ac maen nhw’n ddefnyddiol os ydych chi wedi’ch cynhyrfu. Mae anadlu’n ddwfn yn llonyddu ac yn ymlacio’r corff. Anadlwch i mewn yn araf (trwy eich trwyn), gan lenwi’ch ysgyfaint (o’r gwaelod i fyny) mor lawn â phosibl, a gadewch i’ch stumog ehangu wrth i chi anadlu i mewn. Daliwch eich anadl am rai eiliadau yna, yn araf, anadlwch allan hyd nes y bydd eich ysgyfaint yn teimlo’n wag. Medrwch ddysgu llawer o wahanol ffyrdd o anadlu gan athrawon Ioga neu Fyfyrdod arbenigol.
  • Cyfrwch i 10.