A Ydych Chi'n Ofalydd?
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff gofalydd ei ddiffinio fel:
“person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl” (ond nid gofalwyr a gaiff eu talu)
Ond, ambell waith mae dryswch ynghylch y teitl ‘gofalydd’ oherwydd fod gweithwyr sy’n cael eu talu, a oedd yn arfer cael eu galw yn ‘gynorthwywyr cartref’ a rhieni maeth, wedi cael eu hail-enwi yn ofalwyr cartref a rhai sy’n rhoi gofal.
Rydych chi’n cael eich hystyned yn ‘ofalydd’ os ydych yn darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu rywun arall sydd angen cymorth neu gefnogaeth gyda’i fywyd bob dydd.
Mae’r senarios gofalu yn amrywiol ac yn niferus. Dyma rai enghreifftiau: cwpwl wedi ymddeol, gydag un partner yn datblygu dementia neu’n dioddef strôc neu salwch nychus arall; rhieni newydd sydd, yn sydyn iawn, yn gorfod wynebu’r her o fagu plentyn ag anghenion ychwanegol; teuluoedd sy’n gweithio, sy’n gorfod chwilio am gydbwysedd rhwng gweithio a gofalu am berthnasau oedrannus ac eiddil; gofalu am bobl â salwch meddwl neu bobl sy’n gaeth i sylweddau a’r rhai hynny sy’n cael gofal lliniarol.
Mae gofalwyr yn medru bod yn oedolion sy’n gofalu am oedolion eraill, yn rhieni sy’n gofalu am blant sy’n sâl neu ag anabledd, neu’n ofalwyr ifanc sy’n gofalu am riant, brawd neu chwaer, perthynas neu ffrind.
Yn aml, nid yw unigolion yn ystyried eu hunain yn ofalwyr. Maen nhw’n darparu cymorth am eu bod yn caru’r sawl y maen nhw’n gofalu amdano neu’n ffrind iddynt.
Mae’n bur debygol y bydd gofalwyr yn byw yn yr un tŷ â’r sawl y maen nhw’n gofalu amdano neu’n byw gerllaw ac yn ymweld â’r unigolyn yn rheolaidd. Mae’n bosibl bod rhai gofalwyr yn byw i ffwrdd ac yn ymweld â’r unigolyn yn llai aml, ond yn parhau i deimlo’n gyfrifol am y sawl y maen nhw’n gofalu amdano.
Gall unrhyw un fod yn ofalydd ar unrhyw adeg, ac mae’n bwysig cydnabod pan fod perthynas yn datblygu i ddimensiwn ychwanegol o un person yn cymeryd rôl gofalu dros berson arall.
Mae’r angen am ofal yn medru digwydd yn raddol oherwydd cyflwr meddygol sy’n gwaethygu, neu drwy fynd yn hŷn a dod yn eiddil. Neu, mae’n medru digwydd yn sydyn o ganlyniad i ddamwain, er enghraifft, neu drwy roi genedigaeth i faban anabl. Mae gwaith y gofalydd yn medru cynnwys darparu gofal a chymorth corfforol, cynorthwyo â materion bob dydd, a rhoi cefnogaeth gymdeithasol, emosiynol a llesiannol i’r sawl y mae’n gofalu amdano.