Pwy Ydym Ni

‘Os ydych chi’n oedolyn sy’n ofalydd di-dâl yng Ngogledd Cymru, medrwn ni eich helpu a’ch cefnogi’

 

Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn elusen gofrestredig sy’n ymroddedig i ddarparu gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl 18+ oed yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Cafodd y mudiad ei sefydlu ym 1991 mewn ymateb i’r gwaith fwyfwy pwysig yr oedd gofalwyr teuluol di-dâl yn ei wneud a’r diffyg cymorth oedd ar gael iddynt. Sefydlwyd y mudiad fel elusen annibynnol ym 1997. Dros y blynyddoedd, mae Cynnal Gofalwyr wedi datblygu ei wasanaethau a’i amrywiaeth mewn ymateb i anghenion gofalwyr. Yn ystod 2016, buom yn dathlu pen-blwydd Cynnal Gofalwyr yn 25 oed. Yn anffodus, mae’r problemau a oedd yn wynebu gofalwyr 25 mlynedd yn ôl yn dal i fodoli, ond gyda phlethora o bwysau ychwanegol.

 

Ein gweledigaeth

“Cymdeithas lle y caiff gofalwyr di-dâl eu hadnabod, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi”.

Hyd heddiw, mae ein gweledigaeth yn parhau i fod yn un am gymdeithas gynhwysol a chyfartal sy’n gwerthfawrogi ac yn cydnabod cyfraniad gofalwyr. Rydym yn parhau i fod yr un mor ymroddedig i ddileu gwahaniaethu, rhagfarn ac anfantais trwy hyrwyddo cymdeithas gynhwysol ag yr oedden ni ym 1991. Rydym bob amser wedi ceisio ein gorau glas i sicrhau bod gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni ei gwaith gofalu a mwynhau bywyd y tu allan i ofalu.

Er hyn, rydym hefyd yn gwybod y medrir gwneud mwy. Mater sy’n parhau i fodoli, er gwaethaf ein hymrwymiad, yw gofalwyr cudd. ( h.y. pobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel gofalwyr a phobl nad ydynt yn cael gwasanaethau gan yr awdurdod lleol na’r sector gwirfoddol ar hyn o bryd, a’r gofalwyr hynny a fedrai gael gwasanaethau arbenigol gennym ni).

Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb o bob lliw a llun, waeth a ydynt yn blant, yn oedolion, yn weithwyr proffesiynol, yn bobl amhroffesiynol neu’n wasanaethau, yn ymwybodol bod ein gwasanaeth ar gael i bob dyn a menyw dros 18 oed sy’n ofalydd di-dâl yn ein hardal o ddiddordeb daearyddol, waeth beth yw ei genedligrwydd, ei ethnigrwydd neu’i grefydd.

Rydym ni eisiau i’n henw fod ar flaen tafod pawb pan fyddan nhw’n meddwl am ‘ofalwyr di-dâl’ ac rydym eisiau i ‘ofalwyr di-dâl’ feddwl amdanom ni pan fyddan nhw eisiau cymorth.