Pa fath o ofalydd ydych chi?
Yng Ngwasanaeth Cynnal Gofalwyr, rydym bob amser yn sylweddoli bod gofalwyr, fel pawb arall, yn unigolion unigryw. Yn ogystal â hyn, gwyddom fod pob sefyllfa ofalu yn wahanol, gyda’i galwadau a’i heriau ei hun. Isod, ceir rhestr o’r gwahanol fathau o rolau gofalu. Os nad yw eich rôl ofalu benodol chi wedi’i rhestru, mae dal croeso i chi ffonio Cynnal Gofalwyr am help a chefnogaeth.
Rhiant-ofalwyr: Efallai eich bod yn gofalu am blentyn ag anghenion ychwanegol megis anabledd corfforol neu anhawster dysgu (anabledd). Mae ein grwpiau cymorth i rieni yn cynnig man diogel i fwrw’ch baich a chael a chynnig cefnogaeth. Cadwch lygad ar agor am ein sesiynau hwyl i’r holl deulu a gweithgareddau eraill. Medrwn ni eich cyfeirio at sefydliadau amrywiol a fydd yn medru eich cefnogi chi a’ch plentyn fel bod eich plentyn yn cael y cymorth cywir i gyrraedd ei botensial; medrwn hefyd wneud yn siŵr eich bod yn derbyn eich holl hawliau a’ch helpu chi i gael gafael ar grantiau a chronfeydd elusennol.
Medrwn barhau i’ch cefnogi chi trwy’r cyfnod pan fydd eich plentyn yn pontio rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion. Byddwn hefyd yn eich helpu chi i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gofalu am briod neu bartner: Efallai eich bod yn gofalu am briod neu bartner sy’n anhwylus neu wedi dod yn anabl neu’n fregus. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn golygu eich bod yn gorfod dysgu’n sydyn sut i ysgwyddo’r holl gyfrifoldebau yr oedd eich partner yn arfer ei ysgwyddo. Mae’n ddealladwy felly bod hyn, ar ben cyflawni rôl newydd a heriol fel gofalydd, yn medru bod yn gyfnod pontio gofidus dros ben.
Gofalwyr iechyd meddwl: Os oes gan y sawl yr ydych yn gofalu amdano broblemau iechyd meddwl, medrwch gofrestru gyda Chynnal Gofalwyr i gael cefnogaeth a gwybodaeth a fydd yn eich cynorthwyo chi i barhau i roi cymorth i’ch anwylyn.
Gofalu 24/7: Mae rhai rolau gofalu’n ddwys ac yn gosod galwadau uchel ar y gofalydd. Mae ein staff yn deall heriau’r rôl ofalu ar adegau o’r fath, a medrant eich helpu chi i gael gofal amgen/gofal seibiant er mwyn i chi gael ychydig o amser i fagu nerth newydd. Medrwn wneud yn siŵr eich bod chi a’ch anwylyn yn cael yr holl fudd-daliadau a gwasanaethau sydd gennych chi’r hawl i’w cael, er mwyn i chi fedru canolbwyntio ar y gwaith pwysig ar droed.
Rhyng-ofalwyr: Mae mwy a mwy o ofalwyr yn gorfod ymdopi â rôl ofalu ddeuol, hynny yw, gofalu am fwy nag un unigolyn gydag anghenion gwahanol iawn, e.e. rhiant oedrannus a phlentyn ifanc. Cliciwch yma i ddarllen am eich hawl i ddweud na
Gofalwyr pobl sy’n camddefnyddio sylweddau: Mae gofalu am rywun sy’n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau’n heriol, oherwydd medr gofalwyr barhau i deimlo bod yna warth yn gysylltiedig â’r math hwn o salwch. Bydd ein staff yn eich cefnogi mewn modd proffesiynol heb farnu, a fydd yn eich helpu chi i deimlo’n llai ynysig.
Gofalwyr Dementia: Medrwn ni eich helpu chi i gael gafael ar yr holl gymorth sydd ar gael i gynorthwyo’ch anwylyn â dementia orau.
Ydych chi’n riant-ofalydd? - cliciwch yma
Gofalwyr oedolion ag anawsterau (anableddau) dysgu - cliciwch yma