Rhoi arian

Rhoi arian i Wasanaeth Cynnal Gofalwyr
Mae eich rhodd yn gwneud byd o wahaniaeth.

Rydym yn elusen sy’n dibynnu ar roddion a gweithgareddau codi arian i ychwanegu at ein hincwm craidd fel y medrwn ddarparu gwasanaeth mwy cynhwysfawr i ofalwyr di-dâl.

 

Ffyrdd o roi arian
Rhodd ar-lein                                     
£           Bob mis
£           Un-tro

 

Ein Tudalen Money Giving

Make a donation using Virgin Money Giving

 

Rhodd drwy’r post
Anfonwch eich rhodd drwy’r post i:-
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, G1, InTec, Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG

Mwy o ffyrdd o roi arian

Rhodd er cof
Dathlwch fywyd anwyliaid trwy godi arian neu wneud rhodd er coffa amdanynt.
Mae rhoi arian i’ch elusen er cof am anwylyn yn cefnogi ein gwaith hanfodol ac mae’n ffordd hirdymor o gofio am anwylyn.
Medrwch gefnogi Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr er cof am rywun mewn llawer o ffyrdd:

  • Gwneud rhodd neu drefnu casgliad.
  • Cymryd rhan mewn ras, taith gerdded neu her noddedig – neu drefnu un eich hun – sbïwch ar ein tudalen codi arian am fwy o syniadau.
  • Creu tudalen goffa ar-lein lle bydd pobl yn medru rhoi arian.
  • Trefnu casgliad angladdol – mae casglu arian mewn angladd anwyliaid yn fodd ystyrlon i’w ffrindiau a’u teulu gofio amdanynt.

 

Gadael rhodd etifeddol yn eich Ewyllys
Trwy adael rhodd yn eich Ewyllys, medrwch wneud gwahaniaeth i ofalwyr di-dâl y dyfodol.
Os nad oes gennych chi Ewyllys eto, fe fedrai’r awgrymiadau canlynol eich helpu pan fyddwch yn mynd ati i lunio un:-

Gwnewch restr o bopeth sy’n eiddo i chi

Meddyliwch am bopeth sy’n eiddo i chi (eich ystâd a’ch asedau) a phwy hoffech chi ei gael fel eich ysgutor. (Ysgutor yw’r unigolyn sy’n ymgymryd â’r gwaith o gyflawni’r cyfarwyddiadau y byddwch chi’n eu gadael yn eich Ewyllys pan fyddwch yn marw. Mae hwn yn medru bod yn waith cymhleth, hyd yn oed os yw eich cyfarwyddiadau a’ch eiddo yn gymharol syml. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddo benderfynu pryd i werthu eich eiddo fel bod y bobl a fydd yn etifeddu’r arian ohono yn medru cael cymaint â phosibl o arian)

Meddyliwch am bwy yr hoffech chi eu cynnwys

Anwyliaid fydd yn dod yn gyntaf i’r mwyafrif o bobl, ond rydym hefyd yn gobeithio y byddwch chi’n ystyried gadael rhodd i elusen fel Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.

Penderfynwch pwy fydd yn ysgrifennu eich Ewyllys.

Byddem bob amser yn argymell defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich Ewyllys er mwyn sicrhau bod yr holl ffurfioldebau cyfreithiol yn cael eu cyflawni’n gywir, a bod eich Ewyllys yn cael ei hysgrifennu a’i thystio mewn modd dilys. Edrychwch ar wahanol gwmnïau oherwydd mae’r ffioedd yn medru amrywio’n fawr ar gyfer ysgrifennu Ewyllys.
Cofiwch – os na fydd gennych chi Ewyllys sy’n mynegi eich dymuniadau, medr eich ystâd gyfan gael ei feddiannu gan y Goron neu’r llywodraeth. Ysgrifennwch Ewyllys er mwyn cadw rheolaeth ar bethau.
Os oes gennych chi Ewyllys eisoes, medrwch chi ei diweddaru i gynnwys rhodd i Wasanaeth Cynnal Gofalwyr.
I ddiwygio Ewyllys sy’n bodoli eisoes:-

Ewch ati i baratoi’r holl fanylion.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw’ch Ewyllys yn gyfredol. Os bydd eich amgylchiadau yn newid o gwbl, mae bob amser yn amser da i adolygu’ch Ewyllys er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i adlewyrchu’ch dymuniadau.

Adolygwch y bobl yr ydych chi am eu cynnwys

Anwyliaid fydd yn dod yn gyntaf i’r mwyafrif o bobl, ond rydym hefyd yn gobeithio y byddwch chi’n ystyried gadael rhodd i elusen fel Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.

Penderfynwch pwy fydd yn ysgrifennu eich Ewyllys.

Yn dibynnu ar faint a nifer y newidiadau yr ydych eisiau eu gwneud i’ch Ewyllys gyfredol, mae’n bosibl y byddwch chi’n medru defnyddio codisil i wneud eich diwygiadau. Bydd cyfreithiwr yn medru eich cynghori ar y camau gorau i’w cymryd, yn dibynnu ar eich diwygiadau.

Pa fathau o roddion fedrwch chi eu gadael:-

  • Cyfran o’ch Ystâd- ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, medrwch adael cyfran o’r hyn sydd ar ôl i elusen. Gelwir hyn yn ‘rodd weddilliol’.
  • Rhodd ariannol – pan fyddwch chi’n gadael swm penodol o arian i elusen. Gelwir hyn yn ‘rodd ariannol’.
  • Rhodd benodol – mae modd gadael unrhyw beth i elusen, o hen eitem o emwaith i ddarn o gelf.
  • Rhodd mewn ymddiriedolaeth – medrwch adael rhodd i rywun ei defnyddio dros gyfnod o amser. Pan ddaw’r amser hwnnw i ben, bydd y rhodd yn medru cael ei phasio i dderbynyddion eraill, megis elusen.

 

Achlysur Arbennig
Os oes gennych achlysur arbennig ar ddod, fel pen-blwydd, priodas neu barti ymddeol, fe fedrech chi greu tudalen codi arian a gofyn am roddion ariannol yn lle anrhegion. Yn yr un modd, fe fedrech chi godi arian yn y digwyddiad trwy ddarparu bocsys casglu. Mae’n ffordd ragorol o ddathlu a gwneud gwahaniaeth.

Ffyrdd eraill o helpu ein gwasanaeth
Rydym yn sylweddoli bod miloedd o fudiadau gwerth chweil sy’n dibynnu ar roddion ariannol i ariannu eu gwaith. Mae rhoddion ariannol yn gwneud byd o wahaniaeth, ond rydym ni, yng Nghynnal Gofalwyr, yn gwerthfawrogi bod ffyrdd eraill y medrwch chi helpu i wneud i’n harian fynd ymhellach.

  • Os ydych chi’n hapus i gael ein cylchlythyr trwy e-bost neu ei ddarllen ar-lein, rhowch wybod i ni. Trwy wneud hyn, rydych chi’n ein helpu ni!
  • Rydym ni’n credu bod angen cymorth ar gyn-ofalwyr, a’u bod yn haeddu’r cymorth hwn. Fodd bynnag, rydym yn cyfyngu’r cymorth hwn am un flynedd. Ond, os nad oes angen y flwyddyn hon o gymorth ychwanegol fel cyn-ofalwr, rhowch wybod i ni fel ein bod yn medru diweddaru ein systemau. Trwy roi gwybod i ni eich hun, byddwn ni’n arbed arian trwy beidio â gwneud galwad ffôn adolygu blynyddol neu anfon llythyr adolygu atoch.
  • Rydym yn trefnu plethora o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn gwerthfawrogi bod gofalu yn medru bod yn ingol a chymryd llawer o’ch amser. Ond, os byddwch yn cadw lle ar un o’n digwyddiadau a gweithgareddau, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os na fyddwch yn medru dod. Weithiau, mae gennym restri aros ar gyfer digwyddiadau, felly trwy roi gwybod i ni, bydd gofalwyr yn medru dod yn eich lle. Os nad oes gennym restr aros, medrwn addasu ein rhifau ar gyfer digwyddiadau o’r fath ac, o ganlyniad, medrwn dalu am y rhifau hynny yn unig.  
  • Mae eich amser yn werthfawr. Os oes gennych chi amser rhydd ac eisiau gwirfoddoli gyda ni, sbïwch ar ein tudalen wirfoddoli i gael gwybod am fuddion gwirfoddoli a’r holl wahanol ffyrdd y medrwch wirfoddoli.
  • Mae adborth a straeon gofalwyr mor ofnadwy o bwysig. Rydym nid yn unig wrth ein boddau yn eu darllen, ond medrwn hefyd lunio ein gwasanaethau gan fod yn ystyrlon o ofalwyr. Mae adborth yn arf gwych i ni fedru gwerthuso ein gwasanaethau ac mae hefyd yn ein helpu ni pan fyddwn yn gwneud ceisiadau am gyllid. Daliwch ati i’w hanfon atom!