Beth sy'n newydd
Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-Dâl
Mae’r Siarter hon ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn nodi hawliau cyfreithiol gofalwyr di-dâl yng Nghymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r hawliau hyn yr un fath ar gyfer pob gofalwr di-dâl, waeth a yw’n oedolyn, yn berson ifanc neu’n blentyn. Mae hefyd yn cyfeirio at hawliau dynol ac egwyddorion perthnasol. Gall codi ymwybyddiaeth o hawliau rymuso gofalwyr di-dâl i gymryd rheolaeth ac i sylweddoli pan fydd eu hawliau yn cael eu peryglu, ond mae’r un mor bwysig codi ymwybyddiaeth o hawliau ymhlith gweithwyr proffesiynol.
Gweithredwch heddiw i helpu i ddiogelu eich dyfodol
Mae’n bwysig iawn bod rhywun rydyn ni’n ymddiried ynddo yn gallu gwneud penderfyniadau
am ein hiechyd a’n cyllid os nad ydyn ni’n gallu gwneud y penderfyniadau hyn ein hunain
mwyach. Mae’n hawdd iawn rhoi’r trefniadau hyn ar waith gydag Atwrneiaeth Arhosol, sy’n gallu helpu i roi tawelwch meddwl i chi fel eich bod yn gallu parhau i reoli eich materion. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi datblygu Canllawiau Hwylus ar Atwrneiaeth Arhosol i roi’r wybodaeth sydd arnoch ei hangen ac i ateb unrhyw gwestiynau allweddol sydd gennych.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
("SSWA 2014")
Mae’r gwaith y mae gofalwyr yn ei wneud yn wirfoddol a bellach, mae ganddyn nhw’r un hawliau cyfreithiol a breintiau â’r rhai hynny y maen nhw’n gofalu amdanynt.
Ystyr ‘gofalwr’: ‘person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl’.
Mae dyletswyddau newydd hefyd wedi’u cyflwyno gan SSWA 2014. Mae’r ddeddf yn berthnasol i oedolion, plant a gofalwyr.
Mae gofyniad ar yr Awdurdod Lleol i gynnig asesiadau a gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofalwyr, os ‘fedrai’r’ person fod ag angen am ofal a/neu gymorth.
Mae’n rhaid i’r asesiad i ofalwyr gynnwys:
• Pa mor abl a pharod yw’r gofalwr i ddarparu gofal.
• Pa ddeilliannau personol a llesiant y mae’r gofalwr eisiau eu cyflawni.
• A fedrai darparu cymorth gyfrannu at y deilliannau hynny.
• A yw’r gofalwr eisiau gweithio ac a fyddai’n hoffi cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden - yr awdurdod fydd yn pennu sut y bydd yn ystyried y ffactorau hyn. Mae angen i’r awdurdod benderfynu beth sy’n ‘gymesurol’.
Hefyd:
•Mae asesiad gofalwr yn medru cael ei gyfuno ag asesiad y sawl y mae’n gofalu amdano os yw’r gofalwr yn cytuno â hyn.
•Mae’n rhaid i ofalwyr gyfrannu at eu hasesiadau a theimlo bod ganddyn nhw berthynas cyfartal â’r gweithwyr proffesiynol sy’n cyflawni’r asesiad.
•Mae’n rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o’r asesiad, a’i rannu â’r gofalwr.
Diwallu anghenion – meini prawf cymhwysedd i ofalwyr:
Ar ôl cwblhau’r asesiad ar gyfer y sawl sy’n cael gofal, os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan yr unigolyn anghenion gofal a/neu gymorth, mae’n rhaid iddo benderfynu a yw unrhyw un o’r anghenion hyn yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.
Mae anghenion cymorth y gofalwr yn deillio o ofalu am rywun ag anghenion cymwys. Dyma’r anghenion hynny:
1. Deillio o salwch corfforol neu salwch meddwl, oedran, anabledd, cyffuriau/alcohol neu debyg
2. Mae’r angen yn ymwneud â chyflawni gweithgareddau allweddol - medru edrych ar ôl ei hun neu wneud gweithgareddau domestig arferol; medru cyfathrebu; amddiffyn rhag cam-drin/esgeulustod; cymryd rhan mewn gwaith, addysg neu hamdden; cynnal perthynas â theulu/pobl bwysig eraill; datblygu neu gynnal cysylltiadau cymdeithasol a phresenoldeb yn y gymuned
3. Ni fedr yr unigolyn ddiwallu’r angen gyda’r cymorth presennol sydd ar gael (gofalwyr, byddwch yn ofalus – os byddwch yn rhy barod i ofalu, ni fydd “angen” i’r awdurdod ddarparu cymorth i’r sawl sy’n cael gofal)
4. Ni fedr yr angen cael ei ddiwallu oni bai bod yr ALl yn trefnu cymorth.
Mae gofalwyr yn gymwys os ydynt yn gofalu am rywun sy’n bodloni meini prawf 1 a 2, ac os yw’r gofalwr ei hun yn bodloni meini prawf 2-4, h.y. ei fod yn ei chael hi’n anodd cynnal perthnasau cymdeithasol ac ati, neu bresenoldeb yn y gymuned neu’n methu gweithio oherwydd ei fod yn gofalu, ac mae hefyd yn ystyried pa ddulliau eraill o gymorth sydd ar gael i’r gofalwr ac a yw’n debygol o gyflawni’r deilliannau dymunol heb gymorth gan yr awdurdod lleol.
Pan fydd gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, mae gan yr ALl ddyletswydd gyfreithiol i drefnu cymorth i’r gofalwr os oes angen trwy gynllun cymorth. Mae ganddo bwerau disgresiwn i godi tâl am wasanaethau cymorth i ofalwyr.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor cyffredinol, cysylltwch â Julie Burton Law – 01248364750.
Mae cymorth cyfreithiol ar gael i’r rhai hynny sy’n bodloni gofynion y profion modd llym (budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd neu lefel debyg o incwm ac ychydig iawn o gynilion, os o gwbl).