General Data Protection Regulation (GDPR)

Polisi preifatrwydd y wefan – 10/05/2018

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi am yr wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefan. Wrth gasglu’r wybodaeth hon, rydym yn gweithredu fel rheolydd data ac, yn unol â’r gyfraith, rhaid i ni roi gwybodaeth i chi amdanom ni, pam ein bod yn defnyddio eich data a sut rydym yn gwneud hyn, ac am yr hawliau sydd gennych dros eich data.


Pwy ydym ni?

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ydym ni. Ein cyfeiriad yw Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, G1, InTec, Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG. Medrwch gysylltu â ni drwy’r post ar y cyfeiriad uchod, drwy e-bost i help@carersoutreach.org.uk neu drwy ffonio (01248) 370 797.

Dyma fanylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data:

Catrin Jones, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, G1, InTec, Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG

 

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth


Pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefan

Pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefan i edrych ar ein cynnyrch a’n gwasanaethau a gweld yr wybodaeth rydym ni’n ei chyflwyno, defnyddir nifer o gwcis gennym ni a thrydydd partïon er mwyn galluogi’r wefan i weithio, i gasglu gwybodaeth ddefnyddiol am ymwelwyr ac i helpu i wella eich profiad fel defnyddiwr.

Mae’n rhaid cael rhai o’r cwcis rydym yn eu defnyddio er mwyn i’n gwefan weithio, ac nid ydym yn gofyn eich caniatâd i osod y rhain ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis hyn wedi’u dangos isod.

Enw’r cwci
Diben
Rhagor o wybodaeth
     
     
     

 

Fodd bynnag, o ran y cwcis hynny sy’n ddefnyddiol ond nid yn gwbl angenrheidiol, byddwn bob amser yn gofyn eich caniatâd cyn eu gosod. Mae’r cwcis hyn fel a ganlyn:

Enw’r cwci
Diben
Rhagor o wybodaeth
     
     
     


Yn ogystal â’r cwcis rydym ni’n eu defnyddio, mae trydydd partïon amrywiol hefyd yn eu gosod ar eich cyfrifiadur, eto, gyda’ch caniatâd. Dangosir y rhain isod.

Enw’r cwci
Diben
Rhagor o wybodaeth
__atuvc
Rhannu gwybodaeth
     
     

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, ewch i’n polisi cwcis.

Pan fyddwch chi’n cyflwyno ymholiad trwy ein gwefan

Pan rydych chi’n cyflwyno ymholiad trwy ein gwefan, rydym yn gofyn am eich enw a’ch cyfeiriad e-bost.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ymateb i’ch ymholiad, gan gynnwys rhoi unrhyw wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani am ein cynnyrch a’n gwasanaeth. Efallai y byddwn hefyd yn anfon nifer o negeseuon e-bost atoch ar ôl eich ymholiad er mwyn parhau â’ch diddordeb a sicrhau ein bod ni wedi ateb eich ymholiad yn foddhaol. Byddwn yn gwneud hyn yn seiliedig ar ein budd dilys mewn darparu gwybodaeth gywir cyn gwerthu.

Caiff eich ymholiad ei storio a’i brosesu yn Outlook er mwyn ymateb i’ch ymholiad.

Nid ydym yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i wneud unrhyw benderfyniadau awtomatig a fedrai effeithio arnoch.

Rydym yn cadw ymholiadau e-bost am ddwy flynedd. Wedi hyn, maen nhw’n cael eu harchifo’n ddiogel a’u cadw am saith blynedd cyn y byddwn ni’n eu dileu.


Eich hawliau fel gwrthrych y data

Yn ôl y gyfraith, medrwch ofyn i ni pa wybodaeth sydd gennym amdanoch, a medrwch ofyn i ni ei chywiro os yw’n anghywir. Os ydym wedi gofyn am eich caniatâd i brosesu eich data personol, medrwch dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.

Os ydym yn prosesu eich data personol am resymau cydsynio neu i gyflawni contract, medrwch ofyn i ni roi copi i chi o’r wybodaeth ar fformat y medrir ei ddarllen ar beiriant fel y medrwch chi ei drosglwyddo i ddarparwr arall.

Os ydym yn prosesu eich data personol am resymau cydsynio neu fudd dilys, medrwch ofyn i ni ddileu eich data.

Mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth am gyfnod o amser os nad ydych chi’n credu ein bod yn ei defnyddio’n gyfreithlon.

Yn olaf, medrwch ofyn i ni beidio â dod i benderfyniadau sy’n effeithio ar eich gallu i brosesu neu broffilio’n awtomatig mewn rhai amgylchiadau.

I gyflwyno cais ynghylch eich data personol trwy e-bost, post neu dros y ffôn, defnyddiwch yr wybodaeth gyswllt a ddarparwyd uchod yn yr adran Pwy ydym ni o’r polisi hwn.

 

Eich hawl i gwyno

Os oes gennych chi gŵyn ynghylch ein defnydd o’ch gwybodaeth, byddai’n well gennym pe baech chi’n cysylltu â ni’n uniongyrchol i ddechrau er mwyn i ni roi sylw i’ch cwyn. Ond, medrwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ei gwefan yn www.ico.org.uk/concerns neu ysgrifennu ati yn y cyfeiriad canlynol:

Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF


Diweddariadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu’r polisi preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac yn ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd ac wrth i’n gwasanaethau a’n defnydd o ddata personol ddatblygu. Os byddwn eisiau defnyddio’ch data personol mewn modd nad ydym wedi’i nodi’n flaenorol, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybodaeth i chi am hyn ac, os bydd angen, i ofyn am eich caniatâd.

Byddwn yn diweddaru rhif fersiwn a dyddiad y ddogfen hon bob tro y caiff ei newid.