Carafanau Gofalwyr
Dewch i aros yn ein carafanau am bris arbennig i ofalwyr di-dâl
90 cader idris
47 mountain view
Mae ein carafanau wedi’i lleoli ar gyrion Pwllheli ac mae ganddynt olygfeydd syfrdanol o Eryri y tu ôl iddynt. Maent mewn rhan bendigedig a thawel o’r parc. Boed glaw neu hindda, mae cymaint i’ch difyrru chi yn ystod eich gwyliau.
Mwynhewch weithgareddau drwy’r dydd neu yr adloniant gyda’r nos. Ewch am daith hamddenol ar y llyn cychod, neu beth am fynd am dro yn y parc eang hwn neu ar hyd yr arfordir ar bwys y traeth? Mwynhewch y llithrennau yn y pwll nofio sydd wedi’i hadnewyddu yn ddiweddar. Treuliwch eich amser ar ddec y garafán wrth i’r haul godi neu fachlud. Dim ond rhai syniadau yw rhain i gael gwyliau rhagorol i ffwrdd.
Mae wi-fi am ddim mewn gwahanol fannau ar y safle.
Mae’r safle’n addas i bobl o bob oed, gan gynnwys teuluoedd â phlant.
Gall 6 o bobl aros yn y garafánau, sydd ag un gwely dwbl a dau set o welyau sengl.
Gallwch archebu lle o ddechrau mis Ionawr drwy anfon e-bost at caravan@carersoutreach.org.uk neu drwy wefan Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr neu drwy ffonio ein swyddfa ar 01248 370797.
- Gallwch aros am 3, 4 neu 7 noson.
- Bydd angen talu blaendal o £50.00 pan fydd eich cais yn cael ei dderbyn, ac ni chaiff hwn ei ad-dalu.
- Darperir dillad gwely.
- Mae tocynnau hwyl wedi'u cynnwys yn eich pris.
- Gallwch drefnu i’r archfarchnad gludo nwyddau’n syth i’r garafán.