Dweud eich dweud
Rydym bob amser yn falch o glywed eich barn yng Nghynnal Gofalwyr. Os oes gennych chi unrhyw broblemau brys neu gwynion, rydym yma i’ch helpu chi i fynd â nhw ymlaen a helpu i sicrhau bod eich barn yn cael ei throsglwyddo i’r bobl berthnasol sy’n gwneud penderfyniadau.
Os yw eich problemau’n fwy cymhleth, fe wnawn ni eich cyfeirio at sefydliadau neu asiantaethau eraill sy’n medru helpu.
Cadwch lygad ar ein tudalen Gweithgareddau i weld manylion digwyddiadau sy’n cynnwys gofalwyr.