Gwasanaethau

1. CYMORTH I OFALWYR

imageRydym yn darparu amrywiaeth eang o ddeunydd cychwynnol ar ofalu a gofalwyr yng ngogledd-orllewin Cymru. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth i weithwyr proffesiynol.

  • Gwybodaeth dros y ffôn
    Medr gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd ffonio ein canolfannau i ofyn am wybodaeth.
  • E-bost a phost
    Rydym yn darparu gwybodaeth i ofalwyr ar e-bost a thrwy’r post yn ôl y gofyn.
  • Atgyfeirio allanol a chyfeirio
    Ein nod yw darparu gwybodaeth am yr holl gymorth sydd ar gael i ofalwyr, yn lleol ac yn genedlaethol. Rydym yn cyfeirio gofalwyr at asiantaethau eraill am ragor o wybodaeth
  • Gwefan
    Mae ein gwefan yn ffynhonnell ardderchog o wybodaeth. Ceir gwybodaeth am bob agwedd ar ofalu, gan gynnwys budd-daliadau lles, grantiau, hawliau gofalwyr, lles a chyfleoedd i ofalwyr. Mae’r wefan hefyd yn darparu gwybodaeth i weithwyr proffesiynol, yn cynnwys cyflogwyr.
  • Gwybodaeth a gyhoeddir
    Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd. Mae ein taflenni a’n taflenni ffeithiau yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac mae ein cylchlythyr yn darparu gwybodaeth berthnasol a diweddar i ofalwyr o bob sir bob chwarter. Rydym hefyd yn defnyddio’n tudalennau Facebook a Twitter i rannu gwybodaeth a gyhoeddir a gwybodaeth a gyhoeddir gan drydydd partïon hefyd pan fydd yn berthnasol.
  • Diwrnodau gwybodaeth
    Rydym yn trefnu diwrnodau gwybodaeth ym mhob sir ac yn cydweithio ag asiantaethau eraill i rannu gwybodaeth. Rydym yn trefnu diwrnodau gwybodaeth ar ddiwrnod Hawliau Gofalwyr bob blwyddyn ym mhob sir.
  • imageMae gofalwyr yn medru ffonio neu ymweld â’n canolfannau i gael cymorth emosiynol ar unrhyw adeg. Rydym yma i wrando. Ein nod yw helpu a grymuso gofalwyr i fynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â’u gwaith gofalu ac sy’n effeithio ar eu lles, eu ffordd o fyw a’u dewisiadau.

    imageMae pob gofalydd sydd wedi cofrestru ar ein cronfa ddata yn cael adolygiad bob blwyddyn. Yn ystod adolygiad o’r fath, byddwn yn asesu ei sefyllfa bresennol ac yn gwneud yn siŵr bod ei holl fanylion yn gyfredol ac yn gofyn a oes angen mwy o gymorth arno. Bydd adolygiadau mwy rheolaidd yn cael eu cynnal os bydd hynny’n briodol.

    imageByddwn yn ymweld â gofalwyr yn eu cartrefi os bydd angen oherwydd problemau symudedd neu gludiant, natur wledig cyfeiriad y cartref neu, yn syml, os credir y byddai cymorth personol yn fwy priodol.

    Rydym yn cynorthwyo gofalwyr ag eiriolaeth lefel isel pan fydd angen. Byddwn yn cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol, gwasanaethau cymdeithasol neu unrhyw asiantaethau allanol eraill ar ran y gofalydd os nad yw’n credu y medr ei wneud ei hunan.

    imageRydym yn darparu cymorth hyblyg a hygyrch personol mewn gwahanol leoliadau – canolfannau, yng nghartrefi gofalwyr, lleoliadau iechyd, gan gynnwys Ysbyty Gwynedd, clinigau ffliw, gweithgareddau a digwyddiadau. Rydym yn darparu cymorth grŵp pellach yn eich cyfarfodydd cymdeithasu misol, digwyddiadau grŵp, hyfforddiant a gweithdai. Mae cymorth cyfoedion hefyd yn rhan arbennig o’n cyfarfodydd cymdeithasu misol.

    imageRydym yn rhoi cymorth i ofalwyr i gynllunio at argyfwng. Byddwn yn cymryd ein hamser i asesu sefyllfa gofalydd ac yn ei helpu i lenwi taflen cynllun at argyfwng rhag ofn y bydd unrhyw argyfwng yn codi yn y dyfodol.

    imageByddwn yn helpu gofalwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol, naill ai trwy roi gwybodaeth, atgyfeirio neu gyfeirio neu drwy drefnu hyfforddiant a gweithdai, e.e. atwrneiaeth, ysgrifennu ewyllys neu gynllunio angladd. Ein nod yw cefnogi pob gofalydd i gael tawelwch meddwl.

    imageByddwn yn cynorthwyo gofalwyr i aros mewn addysg a gwaith tra eu bod yn ofalwyr. Byddwn hefyd yn help gofalwyr gael mynediad i fyd addysg a dychwelyd i weithio.

    imageByddwn yn parhau i gynorthwyo gofalwyr am flwyddyn wedi i’w gwaith gofalu ddod i ben. Rydym yn cynorthwyo gofalwyr i ymdrin â galar trwy eu hatgyfeirio at gwnselwyr galar arbenigol a byddwn, wrth gwrs, yn darparu cymorth emosiynol. Rydym yn ceisio symud cyn-ofalwyr ymlaen i gael cymorth gan eu cymuned.

    imageMae ein swyddog gwybodaeth arbenigol yn cefnogi gofalwyr trwy sicrhau eu bod yn cael y budd-daliadau lles a’r hawliadau cywir. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau, mae ein swyddog yn ymdrin â phob ymholiad yn effeithlon ac yn brydlon. Mae ein swyddog yn medru cynnal gwiriadau budd-daliadau, darparu gwybodaeth a chymorth i wneud cais am fudd-daliadau a hawliadau ac mae hefyd yn medru atgyfeirio at wasanaethau arbenigol os yw gofalydd eisiau apelio penderfyniad.
    Medrwn hefyd wneud cais am gronfeydd lles a gwneud cais am grantiau penodol i ofalwyr sy’n wynebu caledi ariannol. Medrir cael grantiau ar gyfer eitemau i’r tŷ, gwyliau neu, yn syml, i dalu costau hanfodol pan fydd gofalwyr yn chwilio’u hunain mewn sefyllfa anodd o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau.

    2. CYMORTH ARBENIGOL

    • image Cymorth arbenigol i riant-ofalwyr plant ag anghenion ychwanegol yng Ngwynedd
      Rydym yn darparu cymorth arbenigol i riant-ofalwyr plant ag anghenion ychwanegol yng Ngwynedd. Mae ein Swyddog yn arbenigo mewn ymdrin â materion sy’n wynebu rhiant-ofalwyr, gan gynnwys iechyd, addysg, hawliadau a lles cyffredinol. Caiff gweithgareddau hefyd eu trefnu ym mhob cwr o Wynedd i’r holl deulu, sy’n ceisio darparu hwyl gynhwysol a phriodol i bawb mewn amgylchedd diogel.
    • Cymorth arbenigol i riant-ofalwyr oedolion ag anawsterau dysgu yng Ngwynedd
      Rydym hefyd yn darparu cymorth arbenigol i riant-ofalwyr oedolion ag anawsterau dysgu yng Ngwynedd. Mae gan eich swyddog wybodaeth arbenigol a phrofiad yn y maes hwn a bydd yn cynorthwyo gofalwyr gydag unrhyw fater a fydd yn codi.
    • Cymorth a gwybodaeth arbenigol i bob gofalydd am fudd-daliadau lles a hawliadau
      Mae ein swyddog gwybodaeth arbenigol yn cefnogi gofalwyr trwy sicrhau eu bod yn cael y budd-daliadau lles a’r hawliadau cywir. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau, mae ein swyddog yn ymdrin â phob ymholiad yn effeithlon ac yn brydlon. Mae ein swyddog yn medru cynnal gwiriadau budd-daliadau, darparu gwybodaeth a chymorth i wneud cais am fudd-daliadau a hawliadau ac mae hefyd yn medru atgyfeirio at wasanaethau arbenigol os yw gofalydd eisiau apelio penderfyniad.
    • Cymorth arbenigol i ofalwyr o fewn lleoliadau iechyd gofal eilaidd
      Mae gennym swyddog arbenigol yn gweithio o fewn tîm rhyddhau Ysbyty Gwynedd sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra i ofalwyr cleifion mewnol a gofalwyr sy’n gleifion eu hunain. Caiff cymorth wyneb yn wyneb wedi’i deilwra ei ddarparu er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn cael y cymorth sydd eu hangen arnynt yn ystod eu hamser yn yr ysbyty a phan gânt eu rhyddhau. Mae gennym hefyd swyddog rhan-amser sy’n gweithio yn ysbytai Dolgellau a Thywyn.
    • Cael gafael ar gronfeydd lles a grantiau i ofalwyr
      Mae ein swyddogion yn medru gwneud cais am gronfeydd lles a gwneud cais am grantiau penodol i ofalwyr sy’n wynebu caledi ariannol. Medrir cael grantiau ar gyfer eitemau i’r tŷ, gwyliau neu, yn syml, i dalu costau hanfodol pan fydd gofalwyr yn chwilio’u hunain mewn sefyllfa anodd o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau.

    3. YMWYBYDDIAETH O OFALWYR

    • imageHyfforddiant Proffesiynol
      Medrir hyfforddiant proffesiynol ar ymwybyddiaeth o ofalwyr gael ei drefnu ar gyfer unrhyw gwmni statudol, preifat neu wirfoddol.
    • Fforwm Gofalwyr
      Rydym yn ceisio cynnal fforymau rheolaidd i ofalwyr er mwyn asesu’r angen a hefyd i ymgynghori â gofalwyr ar unrhyw faterion sy’n codi. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn fforymau trydydd partïon er mwyn sicrhau bod llais y gofalydd yn cael ei glywed.
    • Grwpiau Ffocws Penodol
      Caiff grwpiau ffocws eu trefnu yn ôl yr angen.
    • Hwyluswyr Meddygon Teulu
      Mae ein Hwyluswyr Meddyg Teulu yn gweithio’n agos â phob meddygfa meddyg teulu yn ein hardal o ddiddordeb daearyddol er mwyn codi ymwybyddiaeth o ofalwyr. Maen nhw hefyd yn annog meddygon i adnabod gofalwyr yn gynnar er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymorth amserol ac yn annog mesurau ataliol i gefnogi gofalwyr.
    • Cynrychioli
      Rydym yn cynrychioli gofalwyr ar lawer o lefelau, trwy fynd i gyfarfodydd, darparu adborth gofalwyr i gyrff perthnasol a hefyd yn y wasg.
    • Allgymorth a datblygu cymunedol
      Rydym yn gweithio’n agos â’r gymuned i sicrhau bod cymorth ar gael i bob gofalydd, waeth lle y mae’n byw. Rydym yn ceisio datblygu cymunedau sy’n gynhwysol ac yn gefnogol i bob gofalydd.

    4. CYFLEOEDD CYMDEITHASOL

    • imageGweithgareddau Grŵp
      Cynhelir grwpiau cymdeithasu i ofalwyr bob mis mewn nifer o wahanol leoliadau. Mae gweithgareddau grŵp yn cefnogi datblygiad rhwydweithiau cyfoedion, yn darparu seibiant o ofalu ac yn dathlu’r cyfraniad y mae gofalwyr yn ei wneud i’r gymuned leol.
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
      Trefnir digwyddiadau a gweithgareddau yn rheolaidd i ofalwyr, ac mae’r gweithgareddau wedi’u teilwra i grwpiau penodol o ofalwyr, megis rhiant-ofalwyr, gyda digwyddiadau penodol ar agor i bob gofalydd.
    • Digwyddiadau iechyd a lles
      Caiff digwyddiadau iechyd a lles eu trefnu’n rheolaidd ac maen nhw’n boblogaidd tu hwnt. Mae rhai o’r pynciau yn cynnwys ymwybyddiaeth ofalgar ac ymdopi â straen ac mae llawer o ofalwyr yn mynd i ddigwyddiadau o’r fath.
    • Hyfforddiant a gweithdai sy’n seiliedig ar sgiliau
      Trefnir hyfforddiant a gweithdai sy’n seiliedig ar sgiliau i ddiwallu’r angen ac ateb y galw.
    • Gwirfoddoli
      Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael i ofalwyr, cyn-ofalwyr ac unigolion eraill. Mae buddion eang i wirfoddoli ac rydym yn annog unigolion i wirfoddoli mewn nifer o ffyrdd, megis gweithio mewn swyddfa, mewn grŵp cymdeithasu, codi arian neu hyd yn oed gwau nwyddau i’n stondin yn Ysbyty Gwynedd.