Gweithwyr proffesiynol
Rydym yn gweithio’n agos iawn â gweithwyr proffesiynol ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o ofalwyr ar bob adeg. |
Rydym yn annog gweithwyr proffesiynol i atgyfeirio pobl atom ac, os ydych chi, fel gweithiwr proffesiynol, yn credu y medrai gofalydd elwa o’n cefnogaeth, cysylltwch â ni am ffurflen atgyfeirio electronig neu bapur |
Medrwn drefnu Hyfforddiant Proffesiynol ar ymwybyddiaeth o ofalwyr ar gyfer unrhyw gwmni statudol, preifat neu wirfoddol. |
Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant i gyflogwyr ar y ffordd orau o gefnogi gofalwyr yn y gweithle. Rydym yn annog pob cyflogwr i gael polisi gofalwyr a med
wn eich helpu i greu polisi o’r fath os nad oes gennych chi un eisoes.
Er ein bod yn cynnal ein fforymau gofalwyr ein hunain, gofynnir i ni o bryd i’w gilydd i ymgynghori â gofalwyr ar unrhyw fater ar ran sefydliadau eraill. Rydym yn fwy na bodlon cydweithio â sefydliadau eraill er mwyn sicrhau bod llais y gofalydd yn cael ei glywed.
Rydym yn cyflogi Hwyluswyr Meddyg Teulu ar hyn o bryd sy’n gweithio’n agos â phob meddygfa teulu yn ein hardal ddaearyddol o ddiddordeb er mwyn codi ymwybyddiaeth o ofalwyr. Maen nhw hefyd yn annog gweithwyr i adnabod gofalwyr yn gynnar er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymorth amserol ac yn annog mesurau ataliol i gefnogi gofalwyr.
Rydym yn cynrychioli gofalwyr ymhellach ar lawer o lefelau, trwy fynd i gyfarfodydd, darparu adborth gan ofalwyr i gyrff perthnasol a hefyd yn y wasg. Os ydych chi angen i ni fynd i unrhyw gyfarfod i gynrychioli gofalwyr, anfonwch neges atom a byddwn yn falch o helpu.