Gweithio i ni

Rydyn ni’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yng Ngogledd-orllewin Cymru. Rydyn ni’n gwasanaethu siroedd Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn ac mae gennym ni swyddfeydd ym Mangor a Bae Colwyn. Rydyn ni’n falch o fedru cyflwyno gwasanaeth cwbl ddwyieithog ac mae croeso i ofalwyr gysylltu â ni i ofyn am wasanaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Gofalwyr di-dâl yw pobl sy’n gofalu am briod neu bartner, plentyn, perthynas neu ffrind sy’n sâl, yn anabl, neu’n oedrannus ac yn fregus. Medrant fod yn helpu rhywun gyda thasgau ymarferol bob dydd, gofal personol neu faterion ariannol.

Rydyn ni’n darparu gwasanaeth holistaidd wedi’i deilwra i anghenion unigol gofalwyr, boed hynny’n glust i wrando, cael gafael ar wasanaethau, manteisio i’r eithaf ar hawliadau, cael cymorth gan grŵp cymheiriaid, help gyda grantiau a seibiant neu aros yn ein carafán i ofalwyr. Gwyddom fod gofalu yn medru bod yn heriol, ac mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yn deall sut beth yw hi i fod yn ofalydd a bob amser yn barod i helpu.

Mae gweithio gyda gofalwyr di-dâl yn swydd werth chweil ac mae’r awyrgylch yn ein swyddfeydd bob amser yn un hapus a chyfeillgar, gyda phwyslais ar gefnogi ein gilydd yn ogystal â’n gofalwyr. Mae llawer o’n staff wedi bod yn gwneud y swydd am nifer o flynyddoedd ac yn mentora a meithrin ein cyflogeion iau er mwyn sicrhau gwasanaeth cyson. Mae digon o gyfle i ddatblygu’n bersonol trwy gyrsiau hyfforddi ac roedd diwrnodau dod i adnabod ein gilydd/datblygu yn ddigwyddiadau rheolaidd cyn y pandemig.

“Rwy’n mwynhau gweithio i Gynnal Gofalwyr am ei fod yn wobrwyol ac yn werth chweil. Mae’n medru bod yn heriol ar brydiau gan fod sefyllfaoedd rhai gofalwyr yn anodd – yn enwedig diwedd oes. Mae’r holl staff yn frwd am gefnogi gofalwyr gan eu bod yn rhan mor bwysig o’n cymuned a chan nad ydyn nhw bob amser yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n eu haeddu. Yr hyn sy’n gwneud fy swydd yn arbennig o wobrwyol yw’r adborth rydyn ni’n ei gael gan ofalwyr.”

“Rwyf wrth fy modd yn gweithio i Wasanaeth Cynnal Gofalwyr am fy mod i’n ofalydd fy hun ac yn gwybod o brofiad pa mor anodd ac unig y mae’n medru bod. Rwyf hefyd yn gwybod pa mor anodd yw hi os nad ydych chi’n gwybod o ble i gael help a chefnogaeth. Rwy’n teimlo mod i wedi bod yn ffodus i gael cefnogaeth a chymorth da ac roeddwn i eisiau defnyddio fy ngwybodaeth a’m mhrofiad i helpu eraill. Mae fy nwy rôl yn y mudiad yn ddiddorol ac amrywiol tu hwnt, ac maen nhw’n wobrwyol iawn, mae’n rhoi cymaint o foddhad i mi ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennyf i roi rhywbeth yn ôl i ofalwyr eraill. Mae pawb sy’n gweithio yma’n ofalgar iawn a phawb yn gweithio fel tîm. Mae’n lle gwych i weithio, ac rwyf wrth fy modd yn dod i’r gwaith.”

“Mae cymaint o ffyrdd y medrwn ni gefnogi gofalwyr, ac mae hyn yn gwneud y swydd yn ddiddorol ac yn wobrwyol. O gysylltiad rheolaidd dros y ffôn, a oedd yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn ystod y cyfnodau clo amrywiol, i help ariannol ar ffurf grantiau a budd-daliadau nas hawliwyd. A hefyd gwneud gofalwyr yn ymwybodol o’r help sydd ar gael iddyn nhw, fel cefnogaeth ar ôl cael Asesiad Gofalwr. Mae rhai sefyllfaoedd gofalu’n anodd dros ben, ac mae gwrando ar brofiadau gofalwyr yn brofiad gwylaidd iawn.”

“Nid wyf wedi bod yn y swydd yn hir, ond rwyf wedi ymgartrefu’n dda, mae pawb mor gyfeillgar a hapus i helpu. Rwy’n mwynhau’r swydd a medru helpu’r gofalwyr.
Mae bod yn ofalydd fy hun yn dod â’i broblemau ei hun, ond mae gweithio i Gynnal Gofalwyr yn rhoi’r hyblygrwydd i mi weithio a gofalu. Rwy’n parhau i gael fy nhraed danaf a dim ond yn gweithio’n rhan-amser ar hyn o bryd; hoffwn ni weithio’n amser llawn pe bai’r cyfle’n codi gan fy mod i’n medru ymdopi’n iawn â’r diwrnod gwaith.
Yn olaf, rwyf wedi cwrdd â rhai o’r ymddiriedolwyr ac maen nhw mor gefnogol a chyfeillgar.
Rwy’n gobeithio y bydda i’n rhan o’r tîm am lawer o fisoedd/blynyddoedd i ddod.”

Swyddi Gwag

 

Swyddog Cefnogi Gofalwyr Ysbyty Glan Clwyd

15 awr yr wythnos (Contract wedi'i warantu hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025, parhad yn dibynnu ar adnewyddu cyllid.)

Graddfa Cyflog: £22,129 - £23,953 pro rata*- dibynnol ar gymhwysterau a phrofiad. Sylwch, bydd cyflog yn cael ei addasu ar sail yr oriau gwirioneddol a weithiwyd.

Lleoliad: Wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd. Diben y swydd: I ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth hygyrch i ofalwyr di-dâl cleifion a gofalwyr di-dâl sydd yn gleifion yn Ysbyty Glan Clwyd, gyda’r nod o wella profiad gofalwyr a galluogi gofalwyr i ymdopi’n well gyda’r rôl gofalu.

Am ragor o wybodaeth a phecyn cais, cysylltwch â Julie Oatey ar help@carersoutreach.org.uk i ofyn am becyn swydd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12.00 hanner dydd, Dydd Llun 4 Tachwedd 2024.

Hysbyseb Swydd (pdf)

Gwyliwch allan am swyddi gwag ar ein tudalen Facebook.