Fy Nhaith Trwy Straen
Rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n gofalu am fy mam a oedd â dementia cymysg. Roedd hi eisiau aros yn ei chartref ei hun ac, er gwaethaf fy mhryderon i am ei diogelwch hi a diogelwch ei chymdogion, cafodd y sefyllfa hon ei chaniatáu hyd nes iddi farw. Roeddwn i’n poeni fy enaid y byddai’n llosgi’r tŷ’n ulw a bu’n rhaid i mi ymdrin â llawer o gwynion gan ei chymdogion ynghylch ei natur ymosodol. Rhwng popeth, fel y bydd unrhyw ofalydd dementia’n dweud wrthych, roedd yn gyfnod llawn straen.
Ychydig cyn marwolaeth mam, aeth perthynas agos arall yn ddifrifol wael a bu farw 3 pherthynas/ffrind agos arall - rhai ohonynt yn llawer rhy ifanc!
Roeddwn i’n gweithio’n llawn-amser, a dechreuais deimlo’n bryderus tu hwnt. Roeddwn i’n cael fy llethu gan feddyliau tywyll am bethau ofnadwy’n digwydd i weddill fy nheulu. Fedrwn ni ddim siarad am rai o’r meddyliau hyn, roedden nhw’n rhy arswydus. Roedd arna i ofn mynd i unrhyw le heb fy ffôn symudol, gan feddwl y byddai rhywbeth ofnadwy yn siŵr o ddigwydd i fy anwyliaid pe bawn i’n ei adael ac yn methu eu galwad am help.
Ar ôl rhai misoedd, dechreuais gael symptomau corfforol - phinnau bach yn fy wyneb, crychguriadau’r galon, pennau tost, cymalau poenus, pwysedd gwaed uchel a chyfnodau o flinder eithafol. Gwnaeth fy meddyg brofion gwaed, a thrwy fendith, daeth y rhain yn ôl yn glir. Cefais fy atgyfeirio at ffisiotherapi ar gyfer y boen yn fy nghymalau, a barn y ffisio oedd bod straen yn gyfrifol am lawer o’r boen. Parhaodd y symptomau corfforol a dychwelais at y meddyg. Y tro hwn, awgrymodd y dylwn gyfeirio fy hunan at gwnselydd.
Dywedodd Cynnal Gofalwyr wrthyf am ddau lwybr posibl o gymorth, ‘Parabl: y Bartneriaeth Therapïau Siarad’ a ‘Cymorth yn y Gwaith’. Dewisais ‘Cymorth yn y gwaith’, a ddarparodd un sesiwn gwnsela yr wythnos am 6 wythnos.
Roedd hyn yn ddefnyddiol tu hwnt; helpodd fy nghwnselydd fi i weld bod y gorbryder yr oeddwn i’n ei deimlo yn ymateb naturiol i gyfnod o straen dwys. Gwnaethom edrych ar elfennau o fy mywyd a fedrai fod wedi cyfrannu at ba mor fregus yr oeddwn i wedi bod yn teimlo pan fu’n rhaid i mi wynebu digwyddiadau llawn straen. Rwyf wastad wedi bod yn gyndyn i ofyn am help, a thros y blynyddoedd, roeddwn wedi datblygu diddordeb byw mewn technegau hunangymorth ac wedi astudio llyfrau a gwrando ar gryno ddisgiau ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar. Edrychais o ddifrif ar fy mywyd, a gofyn i fy hun beth oedd yn peri straen yn fy mywyd bob dydd a beth fyddai’n rhesymol i mi fedru rhoi’r gorau i’w wneud.
Gwnaeth y cwnselydd ganmol fy ymdrechion hyd yma, gan ddweud fy mod ar y trywydd cywir. Rhoddodd hyn hwb i fy hunanhyder; rwy’n sylweddoli na fedr unrhyw un gael bywyd cwbl ddi-straen, ond rwy’n credu y bydd bod yn ymwybodol o’r ffactorau straen a chael yr offer i ymdopi â nhw, yn fy atal rhag cyrraedd cyflwr mor bryderus eto.
Fy syniadau i ar sut i ddileu straen
- Pan na fyddwch chi’n medru rhoi’r gorau i boeni am ddigwyddiad posibl neu go iawn yn y dyfodol, stopiwch! Anadlwch gwpwl o weithiau a gofynnwch i’ch hun sut ydych chi’n teimlo nawr. Ydych chi’n ddiogel? Yw eich teulu’n ddiogel? Ie fydd yr ateb fel arfer. Ceisiwch barhau i deimlo’n ddiogel yn y presennol am gyn hired ag y medrwch chi. Bydd hyn yn dod yn haws wrth i chi ymarfer.
- Treuliwch amser gyda phobl sy’n gwneud i chi deimlo’n dda am eich hun.
- Gwaith oedd fy achubydd i; roedd ymgolli’n llwyr mewn prosiect yn fy helpu i anghofio am fy mhryderon am gyfnod.
- Peidiwch â bod ofn gofyn am help; mae pob un ohonom angen help llaw rhywbryd yn ein bywydau. Os nad oes gennych rwydwaith cymorth da o’ch cwmpas chi, bydd Cynnal Gofalwyr yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol.
- Dewch o hyd i rywbeth sy’n gweithio i chi. Rwy’n chwarae fy CDs ymlacio ac yn mynd am dro. Mae cerddoriaeth, sioeau teledu sy’n rhoi hwb i’r galon, grwpiau cymdeithasol, dosbarthiadau ymarfer corff a garddio i gyd yn bethau sy’n cael eu hargymell.