Ydw i o dan straen?
Beth mae’n ei olygu i fod o dan straen? Yn ôl gwefan ‘medical news today’, mae pobl o dan straen pan fyddan nhw’n cael eu gorlwytho ac yn cael anhawster ymdopi â’r galwadau. Mae straen yn medru ysgogi; ac mae straen yn medru bod yn hanfodol i oroesi. Mae’r weithred o ymladd a ffoi yn medru dweud wrthym pryd a sut i ymateb i berygl. Ond, os yw’r weithred hon yn cael ei sbarduno’n rhy hawdd, mae’n medru tanseilio iechyd meddwl ac iechyd corfforol unigolyn a pheri niwed.
Ydw i o dan ormod o straen? Mae hyn yn beth personol - mae pob un ohonom yn medru ymdopi â gwahanol lefelau o straen. Mae’r hyn sy’n bywiogi un person yn medru bod yn frawychus i rywun arall.
Beth yw’r pethau cyffredin sy’n achosi straen ymhlith gofalwyr di-dâl?
- Mae gorfod rhoi anghenion rhywun arall yn gyntaf ddydd ar ôl dydd yn medru effeithio ar eich llesiant.
- Mae meddwl sydd dan ei sang â’r baich meddyliol o ofalu, e.e. meddyginiaeth, ffisiotherapi, apwyntiadau, problemau ariannol, heb sôn am y senarios ‘beth os’ brawychus, yn medru peri i bobl deimlo’u bod wedi’u llethu gan gyfrifoldebau gofalu.
Mae edrych ar ôl eich hun mor bwysig; os byddwch chi’n teimlo’n llwythog â chyfrifoldebau ac wedi llwyr ymladd gan alwadau gofalu, a’ch bod chi’n esgeuluso eich anghenion eich hun, byddwch chi’n ymateb yn wahanol i sut fyddech chi’n ymateb i broblemau pe baech chi wedi dadflino ac yn teimlo’n ddigyffro. Felly, mae’n bosibl bod esgeuluso eich hun yn cyfrannu at straen gofalwyr! Er ein bod ni yn Cynnal Gofalwyr yn pwysleisio pwysigrwydd amser i’ch hun ac edrych ar ôl eich hun, rydym yn sylweddoli bod hyn yn haws dweud na gwneud mewn llawer o sefyllfaoedd gofalu. Y ffaith amdani yw bod rhai sefyllfaoedd gofalu’n rhai llawn straen.
Beth fedraf ei wneud amdano?
Helpu’ch hun:
- Trefnwch amser rheolaidd i fynd allan a gwneud y pethau yr ydych chi’n ei fwynhau, e.e. cwrdd â ffrindiau neu fynd am dro ym myd natur.
- Ceisiwch gyfathrebu; siaradwch â’r sawl yr ydych chi’n gofalu amdano neu â’ch teulu ynghylch sut rydych chi’n teimlo a dewch o hyd i ddatrysiadau gyda’ch gilydd.
- Siaradwch â rhywun yn eich canolfan ofalwyr neu grŵp cymdeithasol gofalwyr lleol. Yn aml, mae siarad am bethau’n ddigon i’ch helpu chi i weld pethau mewn goleuni newydd a gostwng eich lefelau straen. Wedi’r cyfan, nid rhywun siwper ddynol ydych chi ac rydych chi’n gwneud eich gorau glas.
Os yw eich sefyllfa ofalu’n peri straen ofnadwy, efallai y byddai’n ddoeth gofyn am gymorth allanol.
Cymorth allanol:
- Siaradwch â’ch meddyg teulu, a fedrai awgrymu cwnsela neu therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT).
- Mae Cynnal Gofalwyr yn medru eich atgyfeirio chi at sefydliadau defnyddiol amrywiol, gan gynnwys rhai sy’n cynnig y therapïau uchod.
- Cofrestrwch ar gwrs neu ddosbarth ymarfer corff addas; mae wedi’i brofi bod ymwybyddiaeth ofalgar, tai chi, ioga, dawnsio a chanu yn medru helpu i leihau straen. Bydd eich canolfan gofalwyr lleol yn medru eich helpu i ddod o hyd i’r un iawn i chi.
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal cyrsiau am ddim i ofalwyr a phobl sy’n dioddef o anhwylderau cronig.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal cyrsiau am ddim i ofalwyr a phobl sy’n dioddef o anhwylderau cronig.
Pwyntiau allweddol straen i fod yn ymwybodol ohonynt - Mae straen yn helpu’r corff i baratoi ar gyfer perygl.
- Mae’r symptomau yn medru bod yn gorfforol ac yn seicolegol.
- Mae straen yn medru bod yn ddefnyddiol yn y tymor byr, ond yn yr hirdymor, mae’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd amrywiol.
- Medrwn ni baratoi ar gyfer straen trwy ddysgu technegau hunan-reoli.
- Weithiau, mae angen i ni ofyn am help.
Mae gofalu’n medru achosi straen ofnadwy, ac mae Cynnal Gofalwyr yma i helpu gofalwyr i beidio â chyrraedd pwynt argyfwng.