Dileu straen
Rhai syniadau ar sut i ddileu straen
- Ceisiwch beidio â dweud ‘ie’ i bopeth yr holir i chi ei wneud. Y cwbl y mae hyn yn ei wneud yw cynyddu’r lefelau straen. Mae’n iawn i ddweud na weithiau. Os ydym ni bob amser yn dweud ie, pa werth sydd iddo pan rydym ni eisiau ei ddweud go iawn?
- Gorffwyswch – hyd yn oed am brin 10 munud. Porwch drwy gylchgrawn neu caewch eich llygaid a gwrando ar gerddoriaeth ymlacio. Mae’n bwysig chwilio amser i fagu nerth newydd.
- Rhowch gynnig ar rai ymarferion anadlu. Medrwch wneud y rhain ar unrhyw adeg ac maen nhw’n ddefnyddiol os ydych chi wedi’ch cynhyrfu. Mae anadlu’n ddwfn yn llonyddu ac yn ymlacio’r corff. Anadlwch i mewn yn araf (trwy eich trwyn), gan lenwi’ch ysgyfaint (o’r gwaelod i fyny) mor lawn â phosibl, a gadewch i’ch stumog ehangu wrth i chi anadlu i mewn. Daliwch eich anadl am rai eiliadau yna, yn araf, anadlwch allan hyd nes y bydd eich ysgyfaint yn teimlo’n wag. Medrwch ddysgu llawer o wahanol ffyrdd o anadlu gan athrawon Ioga neu Fyfyrdod arbenigol.
- Cyfrwch i 10.